R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella addysg alwedigaethol? OAQ(4)1264(FM)
2. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb i bennu polisi’r llywodraeth? OAQ(4)1268(FM)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi darpariaeth addysg yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1262(FM)
4. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr Adolygiad ar Ddarpariaeth Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? OAQ(4)1274(FM)
5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amseroedd aros am driniaeth y GIG? OAQ(4)1261(FM)
6. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi twristiaeth yng Nghymru? OAQ(4)1275(FM)
7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cymryd i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â recriwtio staff meddygol yn GIG Cymru? OAQ(4)1276(FM)
8. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd Mynyddoedd Cambria i Gymru? OAQ(4)1266(FM)
9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i ymateb i gynlluniau arfaethedig Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gau canolfannau ymholiadau yng Nghymru? OAQ(4)1271(FM)
10. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghwm Cynon? OAQ(4)1267(FM)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i wneud Undebau Credyd Cymru yn gynaliadwy? OAQ(4)1263(FM)
12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i amddiffyn pobl rhag benthyca ar garreg drws a’r cyfraddau llog uchel sy’n gysylltiedig â hynny? OAQ(4)1260(FM)
13. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae’n eu cymryd i wella cyfleoedd economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)1273(FM)
14. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru parthed masnachfraint rheilffyrdd Cymru yn 2018? OAQ(4)1269(FM)W
15. David Rees (Aberafan):Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer economi Aberafan dros weddill tymor y Pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)1277(FM)